Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
E&S(4)-21-12 papur 3
Ymchwiliad i Ddiogelu’r Arfordir yng Nghymru – Papur gan Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
1. Cyflwyniad
1.1. Diben y papur hwn yw gosod tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ymwneud â’r ymchwiliad i Ddiogelu'r Arfordir yng Nghymru.
2. Crynodeb
2.1.Mae'r papur hwn yn amlinellu pwysigrwydd amgylchedd yr arfordir i dwristiaeth yng Nghymru, ac yn rhoi gwybodaeth am weithgarwch fy swyddogion twristiaeth a'n partneriaid i wneud y gorau o werth amgylchedd yr arfordir i economi ymwelwyr Cymru.
3. Cefndir
3.1. Amgylchedd yr arfordir yw un o’r nodweddion pwysicaf ar gyfer twristiaeth yng Nghymru. Yn wahanol i gyrchfannau eraill ym Mhrydain, mae teithiau i lan y môr/ yr arfordir ymhell ar frig y farchnad wyliau yng Nghymru, ar 44%. Yn ail mae pentrefi/ cefn gwlad ar 26% (Ffynhonnell: GTBS 2011).
3.2.Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio dros gydnabyddiaeth ryngwladol i amgylchedd arfordirol Cymru fel un o'r goreuon yn Ewrop o ran safon ei thraethau, cadwraeth a rheolaeth bioamrywiaeth, ac ansawdd dŵr y môr. Gellir defnyddio'r nodweddion cadarnhaol hyn i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth arfordirol.
3.3.O ran erydiad arfordirol, mae rhai o'n safleoedd diwylliannol mwyaf arwyddocaol mewn ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd a/ neu erydiad. Mae safleoedd twristaidd naturiol a gwneud fel llwybrau arfordirol, gwarchodfeydd natur, henebion a thraethau mewn ardaloedd sydd mewn perygl.
3.4. Er nad yw fy adran yn uniongyrchol yn datblygu rhaglenni sy'n targedu erydiad arfordirol a pheryglon llifogydd, mae'n arwain ar fater datblygu cynaliadwy ar hyd yr arfordir ac yn buddsoddi yn y seilwaith, cyfleusterau hamdden, ansawdd a rheolaeth gynaliadwy.
3.5. Mae fy swyddogion yn cydweithio’n agos gyda'r adran adfywio (Tai, Adfywio a Threftadaeth) er mwyn sicrhau bod datblygiadau twristaidd o fewn yr ardaloedd adfywio arfordirol yn cyfrannu at amcanion strategol cyffredinol y sector, ac yn eu cefnogi. Rydym yn parhau i gydweithio drwy'r adolygiad adfywio cyfredol er mwyn sicrhau bod twristiaeth yn chwarae rhan strategol yng nghyfeiriad polisi adfywio trefi glan môr yn y dyfodol.
4. Strategaeth Twristiaeth yr Arfordir
4.1.Lansiwyd Strategaeth Twristiaeth yr Arfordir Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2008. Mae'n gosod strategaeth gyffredin ar gyfer datblygu twristiaeth arfordirol sy'n gwireddu potensial economaidd arfordir Cymru ac yn adeiladu arno, gan barchu'r ansawdd amgylcheddol a chydnabod pwysigrwydd manteision cymunedol ar yr un pryd. Mae Twristiaeth Arfordirol yn arbennig o ddibynnol ar ansawdd yr amgylchedd naturiol a nodweddion diwylliannol unigryw Cymru - nodweddion sy'n medru cael eu dinistrio o gael eu cynllunio neu eu rheoli mewn ffordd wael. Gall yr amgylchedd naturiol hefyd roi hwb i’r nodweddion hyn drwy godi ymwybyddiaeth, neu’n anuniongyrchol drwy ddarparu cyfiawnhad economaidd dros fuddsoddi. Mae strategaeth twristiaeth yr arfordir yn edrych yn uniongyrchol ar sialensiau datblygu twristiaeth arfordirol mewn ffordd gynaliadwy er mwyn sicrhau manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.
5. Partneriaeth Môr Glas
5.1. Nod Partneriaeth Môr Glas yw sicrhau camau ymarferol i wella ansawdd amgylchedd ein harfordir mewn ffordd gynaliadwy, gan ganolbwyntio ar ansawdd dŵr ymdrochi a thraethau a defnydd diogel o'n traethau.
5.2. Ers ei lansio ym mis Mai 1996, mae'r bartneriaeth wedi annog defnydd o'r codau ymddygiad a'r codau morol sydd eisoes yn weithredol yng Nghymru ac wedi llwyddo’n sylweddol i wella ansawdd arfordir Cymru a chynyddu'r nifer o draethau sydd wedi ennill gwobrau yng Nghymru. Yn 2012 llwyddodd Cymru i ennill y gwobrau traethau canlynol:-
5.3. Yn 2010, dewiswyd dau awdurdod arfordirol i yrru'r Prosiect Môr Glas ar ran holl awdurdodau arfordirol Cymru. Mae'r prosiect hwn bellach yn rhan o Brosiect Twristiaeth Arfordirol cyffredinol Amgylchedd ar gyfer Twf (E4G) y rhaglen Gydgyfeirio.
6. Amgylchedd ar gyfer Twf – Twristiaeth Arfordirol a Thwristiaeth Cynaliadwy
6.1. Nod y ddau brosiect UE ar Dwristiaeth Arfordirol a Thwristiaeth Cynaliadwy yw gwahodd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd i wella'u hiechyd, lleihau straen a dysgu mwy am bob agwedd o'r amgylchedd drwy fanteisio ar asedau awyr agored cenedlaethol.
6.2. Fel rhan o'r broses gymeradwyo, roedd pob “Canolfan Ragoriaeth” arfaethedig yn ddibynnol ar ymgynghoriad gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ynghylch polisïau cynllunio a rheoliadau yn effeithio ar ddatblygiadau arfordirol (h.y. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig), diogelu cynefinoedd amgylcheddol yr UE a pholisïau perthnasol eraill.
6.3. Mae Croeso Cymru'n parhau i weithio gyda'r arweinwyr prosiect, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdodau Lleol o ran polisïau yn ymwneud â Chynlluniau Rheoli Traethlin a'r Parthau Cadwraeth Morol arfaethedig yng Nghymru.
6.4. Mae'r prosiect Twristiaeth Arfordirol yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch chwaraeon dŵr a gweithgareddau twristaidd o safon uchel o amgylch yr arfordir, gan annog gweithgareddau hamdden mwy cynaliadwy, integreiddio trafnidiaeth gynaliadwy a gwella rheolaeth amgylcheddol. Mae'r prosiect wedi cefnogi tair Canolfan Ragoriaeth ar arfordir Cymru:-
· Canolfan Ragoriaeth Aberdaron (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
· Canolfan Arfordirol Sir Benfro (Sir Benfro)
· Canolfan Chwaraeon Dŵr Abertawe (Abertawe)
6.5. Amcan Rhaglen Gwelliannau Arfordirol Môr Glas (rhan o Brosiect Twristiaeth Arfordirol E4G)yw sicrhau bod ansawdd traethau - o amgylch arfordir ardal Cydgyfeirio Cymru - yn cael ei gynnal a'i wella er mwyn cyflawni disgwyliadau cynyddol yr ymwelwyr. Cynlluniwyd y rhaglen i wella ansawdd profiad ymwelwyr ar draethau Cymru drwy:
· Ddatblygu'r amgylchedd naturiol drwy well mynediad a mwynhad;
· Darparu/gwella seilwaith, cyfleusterau, hygyrchedd priodol – (h.y. meysydd parcio, llwybrau mynediad, gwybodaeth ymwelwyr, dehongli, toiledau a chyfleusterau amgylcheddol ayyb;
· Monitro gweithgareddau;
· Annog ‘Naws am Le’;
· Dehongli a Naws am Le - gyda chefnogaeth gwelliant yn y ddarpariaeth o wybodaeth a dehongli.
7. Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (TISS)
7.1.Amcan TISS yw sbarduno mwy o alw o gyfeiriad marchnadoedd newydd a chyfredol drwy annog prosiectau buddsoddi cyfalaf wedi'u hanelu at wella ansawdd cyfleusterau. Mae unrhyw brosiectau buddsoddi mewn twristiaeth drwy TISS yn ddibynnol ar ganiatâd cynllunio ac ymgynghoriad ehangach gydag Awdurdodau Lleol. Mae Llywodraeth Cymru'n dibynnu ar Awdurdodau Lleol neu Barciau Cenedlaethol i ystyried materion diogelu'r arfordir lle bo'n briodol yn ystod y cam cynllunio.
8.1.Mae Rhaglen Gwella Mynediad i'r Arfordir Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella hawliau tramwy arfordirol cyfredol, datblygu llwybrau newydd a sicrhau mynediad ar gyfer nifer o grwpiau defnyddwyr gan gynnwys beicwyr, pobl ag anableddau a marchogwyr ceffylau. Ym mis Mai 2012 lansiwyd Llwybr Arfordir Cymru Gyfan gan arwain at sylw sylweddol gan y cyfryngau yn y DU ac yn rhyngwladol.
8.2. Mae fy adran yn cadeirio grŵp marchnata a chyfathrebu Llwybr Arfordir Cymru. Mae gwaith ychwanegol eisoes wedi cychwyn ar lwybrau cylch i ganiatáu i bobl adael yr arfordir ac anelu at drefi a phentrefi, gan ddod â manteision economaidd i gymunedau cefn gwlad Cymru.
9. Gweithgareddau partneriaeth eraill:
9.1. Cadw Cymru'n Daclus - datblygu gwefan benodol i annog rheolaeth fwy cynaliadwy o'r arfordir. Bydd y wefan yn cynnwys gwybodaeth allweddol ar broffiliau traethau, treftadaeth forol, bioamrywiaeth, hygyrchedd a rheolaeth gynaliadwy ehangach o'r arfordir. Cefnogi Grwpiau Gofal Arfordir, sy'n grymuso cymunedau lleol, gan eu hannog i gymryd perchnogaeth o faterion penodol gan gynnwys traethau. Ar hyn o bryd mae 136 grŵp yn gweithredu ar hyd arfordir Cymru
9.2. Pecyn Cymunedau Arfordirol - helpu rheolwyr traethau i ddatblygu a darparu ffordd fwy cynaliadwy o reoli arfordiroedd, digwyddiadau a gweithgareddau o amgylch yr arfordir, yn ogystal â gweithgarwch gwybodaeth amgylcheddol allweddol.
9.3. Adroddiad Twristiaeth a Hinsawdd - comisiynodd Croeso Cymru adroddiad yn 2010 i edrych ar effeithiau newid hinsawdd ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Bydd Cam 2 yr astudiaeth yn cael ei chomisiynu yn 2012 ac yn clustnodi effeithiau allweddol ar gyfer y diwydiant ac argymhellion ymarferol ar gyfer paratoi datblygiadau twristaidd ar gyfer y dyfodol.
9.4. Datblygu taflenni gwybodaeth a chefnogaeth i fusnesau ar newid hinsawdd gan gynnwys llifogydd, paratoi ar gyfer y dyfodol ac erydiad.
9.5. Archwiliad a Phecyn Twristiaeth Hamdden - Mae Archwiliad Gweithgareddau Hamdden De Orllewin Cymru'n ganllaw defnyddiol i glustnodi ardaloedd twristaidd dan bwysau, a'r swm o weithgareddau o amgylch yr arfordir. Datblygwyd pecyn ar-lein ar gefn y gwaith hwn er mwyn i ranbarthau eraill elwa o'r gwaith a datblygu ffordd debyg o weithio wrth fonitro a rheoli arfordiroedd mewn ffordd gynaliadwy.